Mae Recriwtio Cyf yn gallu defnyddio’r cyfryngau priodol i sicrhau fod yr ymgeiswyr gorau yn ymateb i’ch hysbysebion.
Byddwn yn gweithio’n agos gyda Lleol.cymru – ein chwaer gwmni a hysbysfwrdd swyddi mwyaf blaenllaw Cymru. Byddwn yn defnyddio hysbysfyrddau swyddi eraill hefyd.
Byddwn yn cydweithio gyda chi i’ch helpu i farchnata’ch brand yn y ffordd orau a mwyaf effeithiol posib. Mae gennym brofiad o ddatblygu ymgyrchoedd recriwtio llwyddiannus ac fe allwn ni gynghori pryd a ble i hysbysebu i gael yr ymateb gorau. Fe allwn ni hefyd eich helpu i gynhyrchu hysbysebion creadigol llwyddiannus yng ngwir ystyr y gair.
Ffyrdd o ddenu ymgeiswyr
Bydd ein harbenigydd dylunio yn creu pecyn unigryw ar eich cyfer sy’n ymateb i’ch union anghenion. Rydym yn cynnig amryw o ffyrdd gwahanol i sicrhau y byddwch yn dal sylw’r bobl orau posib.
Fe allwn ni eich helpu i hysbysebu ar – lein ac mewn cyfryngau eraill mewn modd fydd yn cynyddu’ch enw da fel cyflogwr drwy ddenu’r bobl orau i weithio i chi.
Rydym yn cyfuno ein dealltwriaeth o’ch sefyllfa waith gyda’n gwybodaeth am recriwtio. Yna, drwy ddefnyddio’ch asiantaeth hysbysebu chi, neu ein tîm hysbysebu mewnol, byddwn yn gweithio gyda chi i greu ymgyrch hysbysebu drawiadol ac unigryw.
Ni waeth pa fath o gwmni ydych chi, byddwn yn llunio dull hysbysebu i chi fydd yn rhoi’r fantais gystadleuol i’ch busnes gan adlewyrchu’ch gwerthoedd a’r hyn sydd gennych i’w gynnig. Mae gennym amryw o bartneriaid sy’n gweithio mewn cyfryngau hysbysebu amrywiol, a byddwn yn eich cynghori ynghylch dulliau hysbysebu addas, yn sôn am y cyfraddau llwyddiant ac yn rhoi manylion am amserlenni cynhyrchu, gwaith dylunio a rheolaeth. Gallwn hefyd drafod a chytuno ar gyfraddau cystadleuol iawn ac yn aml gallwn drosglwyddo’r gostyngiadau hyn i’n cleientiaid. Os oes angen , gallwn hyd yn oed gynnwys gwasanaeth rheoli ymatebion.
Ond pam ar y ddaear y byddai arnoch chi eisiau hysbysebu ar wefan recriwtio yn hytrach nac ar eich gwefan eich hun?
Wel , yr ateb symlaf a mwyaf effeithiol (Yn null Recriwtio Cyf.) yw oherwydd mae’n gweithio! Byddwn yn cyfuno eich brand chi a’n brand ni i greu rhywbeth arbennig. Byddwn yn rhoi lle amlwg ar wefannau llwyddiannus i chi ac yn gwneud yr holl waith caled tra rydych chi’n eistedd yn ôl a mwynhau ffrwyth y llafur.