Mae Recriwtio Cyf yn deall y cyfyngiadau o ran amser ac arian a roddir ar berchnogion / rheolwyr llawer o fusnesau lleol . Rydym hefyd yn deall pa mor anodd yw hi i recriwtio staff i ymgymryd â swydd gyfrifol o fewn cwmni . Rydym yn awyddus i gydweithio â chi yng ngwir ystyr y gair a helpu i rannu’r baich o recriwtio mewn ffordd gost-effeithiol . Gyda hyn mewn golwg fe hoffem ni roi’r cyfle i chi ddefnyddio’n gwasanaethau i’ch helpu i ddod o hyd i staff newydd ar gyfer eich cwmni.
Gweledigaeth Gwasanaethau Recriwtio Cyf yw rhagori ar ddisgwyliadau unigolion drwy recriwtio mewn ffordd arloesol. Gobeithiwn ennill hygrededd yn y gymuned fusnes ar gyfrif ein diffuantrwydd a’n moeseg busnes . Ein harbenigedd yw gweithio gyda busnesau sy’n chwilio am weithwyr gyda sgiliau yn y Gymraeg.
Lawrlwythwch ein pecyn recriwtio yma
Ein gwasanaethau recriwtio
- Cyngor a chymorth un wrth un gydag arbenigwr adnoddau dynol a recriwtio sydd yn deall eich anghenion busnes drwy gydol y broses.
- Cymorth gydag ysgrifennu hysbysebion yn effeithiol er mwyn denu’r ymgeiswyr gorau.
- Cymorth gydag ysgrifennu disgrifiadau swyddi a manylebau person.
- Darparu cyngor ynglŷn â chyflogau priodol drwy wneud cymariaethau yn y farchnad.
- Hysbysebu’r swydd yn y llefydd fwyaf priodol
- Prosesu ceisiadau gan ymgeiswyr naill ai drwy eich ffurflenni cais chi neu drwy CVs ac felly lleihau’r baich gweinyddol i chi. Gydag arbenigedd lleol.net gall ymgeiswyr ymgeisio mewn modd cyfrinachol ar lein.
- Eich cynorthwyo i dynnu rhestr fer trwy gyfeirio at y criteria a gytunwyd ar gyfer y swydd.
- Prosesu’r holl broses recriwtio drwy drefnu cyfweliadau, anfon llythyron at yr ymgeiswyr llwyddiannus a’r rhai aflwyddiannus.
- Cynorthwyo gyda chyfweliadau drwy baratoi cwestiynau cyfweld ar gyfer y panel cyfweld.
- Paratoi system sgorio ar gyfer cyfweliadau er mwyn gwarchod y cwmni rhag unrhyw gyhuddiadau o anffafriaeth neu annhegwch.
- Eistedd ar baneli recriwtio.
- Cynorthwyo gyda gosod profion neu ymarferion dewis eraill.
- Negydu gyda’r unigolyn llwyddiannus, darparu llythyr cynnig a chytundeb cyflogaeth ar ôl penodi’r unigolyn.
- Sicrhau bod gan yr unigolyn llwyddiannus yr hawl i weithio yn y DU.
- Prosesu’r broses o dderbyn geirda ar gyfer yr unigolyn llwyddiannus.
- Anfon llythyron at yr ymgeiswyr aflwyddiannus yn dilyn cyfweliadau.
Yn ychwanegol, gellid cynnig gwasanaeth ‘headhunting’, sef targedu unigolion priodol yn y maes. Byddai hyn yn golygu gweithio’n agos gyda’r cwmni dan sylw er mwyn deall ac adnabod y sgiliau angenrheidiol ar gyfer y swydd a thargedu unigolion gyda’r sgiliau a’r arbenigedd perthnasol.
Os oes gennych swydd wag lle mae sgiliau iaith Gymraeg naill ai’n ddymunol neu’n hanfodol, yna gallwn eich helpu. Cysylltwch â ni heddiw, neu llenwch y Ffurflen Ymholiadau Swyddi i ni asesu eich gofynion.